WNA Logo.jpg

 

Cofnodion cyfarfod cyntaf Grŵp Trawsbleidiol Cyflyrau Niwrolegol y Pumed Cynulliad

Dydd Mawrth 14 Mehefin 2016

Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyflwynodd Lynne Hughes ei hun fel Cadeirydd Is-bwyllgor Dylanwadu Cynghrair Niwrolegol Cymru a chroesawodd bawb i Grŵp Trawsbleidiol y Pumed Cynulliad.

 

Yna rhestrodd Lynne Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol ar y Grŵp:

 

Enw

Dyddiad

Grŵp plaid

Mark Isherwood AC

1 Mehefin 2016

Y Ceidwadwyr Cymreig

Dr. Dai Lloyd AC

1 Mehefin 2016

Plaid Cymru

Vikki Howells AC

1 Mehefin 2016

Llafur Cymru

Lee Waters AC

14 Mehefin 2016

Llafur Cymru

Huw Irranca-Davies AC

14 Mehefin 2016

Llafur Cymru

Angela Burns AC

14 Mehefin 2016

Y Ceidwadwyr Cymreig

David Rees AC

14 Mehefin 2016

Llafur Cymru

 

Yna, enwodd gynrychiolwyr Pwyllgor Gweithredol Cynghrair Niwrolegol Cymru

 

Enw

Sefydliad

Lynne Hughes

Cymdeithas MS

Ana Palazon

Y Gymdeithas Strôc

Dave Maggs

Headway

Barbara Locke

Parkinson's UK

David Murray

Cure Parkinson’s

Kevin Thomas

Cymdeithas MND

Ann Sivapatham

Epilepsy Action

Dafydd Williams

Muscular Dystrophy UK

Carol McCudden

Ataxia UK

Michelle Herbert

The Brain Tumour Charity

Dilwyn Jones

Brain Injury Rehabilitation Trust

Ahmad Butt

British Polio Fellowship

 

 

 

 

Esboniodd Lynne fod cyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol Cyflyrau Niwrolegol yn agored i'r cyhoedd ac yr anfonir gwahoddiadau i sefydliadau sy'n aelodau o Gynghrair Niwrolegol Cymru ac eraill sydd â diddordeb mewn cyflyrau niwrolegol.

 

Aelodau presennol Cynghrair Niwrolegol Cymru yw:

 

Enw'r aelod

·         Ataxia UK

·         Brain Injury Rehabilitation Trust

·         Brain and Spine Foundation

·         British Polio Fellowship

·         Charcot Marie Tooth UK

·         Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi

·         Children’s Brain Injury Trust

·         Cure Parkinson's Trust

·         Different Strokes

·         Dystonia Society

·         Epilepsy Action Cymru

·         Epilepsy Cymru

·         Headway Cymru

·         Meningitis Now

·         Migraine Action

·         Y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor

·         Cymdeithas Sglerosis Ymledol Cymru

·         Muscular Dystrophy UK

·         Myasthenia Gravis

·         Y Ganolfan Niwrotherapi

·         Y Gynghrair Niwrolegol

·         Parkinson's UK

·         Progressive Supra Nuclear Palsy Association

·         Shine Cymru

·         Y Gymdeithas Strôc

·         The Brain Tumour Charity

 

Esboniodd Lynne mai nod y Grŵp Trawsbleidiol Cyflyrau Niwrolegol yw gwella gwasanaethau i bobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol. Amcanion y grŵp oedd:

 

·         Ymgysylltu â phobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol a gweithio mewn partneriaeth â hwy

·         Codi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol a'u heffaith ar unigolion a'u cymunedau

·         Rhoi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru am anghenion pobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol, a dylanwadu arni.

·         Cefnogi a hybu gwaith ymchwil priodol.

Aeth Lynne rhagddi i egluro y cynhaliwyd dau ymchwiliad yn ystod cyfnod Grŵp Trawsbleidiol Cyflyrau Niwrolegol y Pedwerydd Cynulliad. Roedd yr ymchwiliadau hynny'n ymwneud â Chyflyrau Niwrolegol (2011) a Mynediad at Niwro-ffisiotherapi (2013) ac roedd yn falch bod y rhain wedi cyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth flaenorol Cymru i lunio Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol. Roedd y grŵp trawsbleidiol hefyd yn flaenllaw wrth ymateb i'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol drafft, ac erbyn hyn roedd gan Gynghrair Niwrolegol Cymru dri chynrychiolydd ar y Grŵp Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol.

 

Mae'r Llywodraeth wedi addo y caiff y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol ei adnewyddu yn 2017 ac esboniodd bod gan y Grŵp Trawsbleidiol dipyn o waith i'w wneud i sicrhau bod llais y bobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol yn cael ei gynnwys yn y broses hon.

 

Yna etholwyd Cadeirydd ac Ysgrifennydd ar gyfer Grŵp Trawsbleidiol Cyflyrau Niwrolegol y Pumed Cynulliad.

 

Etholwyd Mark Isherwood AC yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol, a chafodd ei gynnig gan Ana Palazon, a'i eilio gan David Murray.

 

Etholwyd Megan Evans, Cydgysylltydd Gynghrair Niwrolegol Cymru yn Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol, a chafodd ei chynnig gan Dilwyn Jones a'i heilio gan Lynne Hughes.

 

Gofynnodd Lynne a allai'r cynrychiolwyr aros i rwydweithio gyda'r sefydliadau a oedd yn bresennol ac yn aelodau o Gynghrair Niwrolegol Cymru. Roedd wedi dod â gwybodaeth i'w dosbarthu.